![]() |
Mae’r isod yn grynodeb o sylwadau a godwyd yn sesiwn y Pwyllgor ym mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf ar ddydd Mercher 7 Awst 2024.
Nodwyd mae un o’r brif heriau yw gwahaniaethu’r Gymraeg rhwng iaith ysgol a iaith bywyd tu allan i’r ysgol. Soniwyd fod toriad yn dueddol o ddigwydd yn ddefnydd o’r Gymraeg ar ôl i bobl adael yr ysgol lle dyw pobl ddim yn credu “my Welsh isn’t good enough”. Mae gan rhai siaradwyr elfen o fregusrwydd (vulnerability) lle maent ofn gwneud camgymeriadau. Cymharodd gyda fynd i Ffrainc, le nid oes unrhyw ofn trio siarad Ffrangeg.
Codwyd y pwynt ar ba adeg mae rywun yn stopio bod yn “ddysgwr”? Mae defnyddio “Wenglish” yn hollol iawn. Dywedwyd does dim ots os yw rywun yn camdreiglo. Un her gyda’r mater yma yw efallai agwedd cyffredinol yn y Cymoedd lle “dwi ddim yn ddigon da”. Nododd cyfrannwr arall fod y pwyntiau yma yn canu cloch a fod diffyg hyder yn broblem - “un o’r heriau mwyaf ni”. Sgil effaith hyn yw prinder siaradwyr Cymraeg ar gyfer addysg Cymraeg.
Gofynnwyd y cwestiwn p’un ai bod plant yn cael y cyfle i siarad Cymraeg? Hynny yw cyfleoedd y tu allan i’r ysgol, yn enwedig pryd mae cymaint yn gadael addysg cyfrwng Cymraeg gyda “Chymraeg teidi”.
Mae pobl dal yn gweld werth o allu siarad Cymraeg gan ei fod yn danfon ei plant i ysgolion Cymraeg pan nad ydyn nhw’n gallu ei siarad, nac yn gallu siarad yr iaith gyda’i plant.
Trafodwyd bod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer cynnal gweithgareddau ond nid i gefnogi’r ochr weinyddol, ac mae ariannu yn her o rhan faint a hefyd o rhan cymwysterau wahanol a buddsoddi wahanol. Mae yna oblygiadau i hyn oherwydd mae angen dod o hyd i staff i weithio mewn clybiau gofal – mae angen sicrhau fod gan y gweithwyr y cymwysterau cywir....mae angen cymwysterau gwahanol ar gyfer clybiau gofal ac ar gyfer clybiau hâf er enghraifft. Dywedodd un bod yna “prinder enfawr” o staff sy’n siarad Cymraeg, a dywedodd un arall bod prinder cyfleoedd gweithio yn y Cymraeg.
Nodwyd bod angen cael fwy o ddigwyddiadau dwyieithog – mae balcher rhieni yn gweld ei plant yn mynychu a chymryd rhan yn fath digwyddiadau yn amlwg – ond mae un penwythnos y flwyddyn yn annigonol. Rhaid i bethau fynd tu hwnt i fod yn “token gesture”. Nodwyd fod creu cyfleoedd allgyrsiol yn hynod o bwysig.
Soniwyd fod grant craidd mentrau iaith yn fach ac heb gynyddu ers degawd, ond mae’n dal yn bwysig. O ganlyniad mae’n her i gadw staff.
Gofynnwyd sut mae creu cymuned newydd o siaradwyr? Un ateb a chynigwyd i hyn fod profiadau’r blynyddoedd diwethaf yn arwain at yr Eisteddfod wedi darparu cymaint o gyfleoedd i fynychu digwyddiadau Cymraeg. Er enghraifft, nodwyd fod un o’r corau a sefydlwyd ar gyfer gystadlu yn yr Eisteddfod yn mynd i barhau sydd yn dangos elfen bositif bod yr Eisteddfod yn symud o le i le. Nodwyd hefyd bod yr Eisteddfod wedi ysbrydoli pobl i fynd nol i wersi Cymraeg. Mae e wedi bod yn mwy dwyieithog a mwy croesawgar.
Trafodwyd hefyd y cyfraniad pwyllgorau lleol i adnoddau – e.e. o rhan cario ymlaen i codi arian a.y.y.b.
Codwyd pwynt fod gwirfoddoli yn y Gymraeg yn rhoi cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd fwy “casual”. Gofynnwyd sut all elusennau helpu i rhoi fwy o gyfleoedd fel hyn yn y Gymraeg.
Nodwyd fod gan y mentrau iaith rôl ganolog yn hybu cyfleoedd ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud pob dim oherwydd adnoddau prin. Fodd bynnag, soniwyd am cyfle o wneud y fwyaf o’r Eisteddfod yn cael ei gynnal yn lleol – mae lawer o bwyllgorau bach, lleol wedi ei sefydlu er mwyn codi arian. Ond, yn aml, y r’un bobl sydd ar y pwyllgorau yma ag sydd ar bwyllgorau eraill tebyg lleol felly yr her yw i recriwtio bobl newydd. Fel rhan o hyn, mae angen croesawu siaradwyr newydd ac trafodwyd ei fod yn bwysig cadw cydbwysedd rhwng siaradwyr rhugl a siaradwyr newydd.
Soniwyd fod angen parhau i gynnal digwyddiadau i sicrhau fod y Gymraeg yn weledol ac yn hwyl.
Nodwyd bod angen cyfleoedd swyddi a’r cyfle i siarad Cymraeg yn y gweithle. Mae rhaid chwilio am gyfleoedd ond mae’n anodd.
Trafododd un siaradwr newydd fod S4C yn ateb. Dywedodd y dysgwr nad oeddent yn mynd i ddosbarthiadau ond ei bod yn dysgu o wylio S4C. Mae’n gwneud hyn drwy “bwyta drama newydd mewn un bite”, ac mae dyma ei prif ffynhonnell o ddysgu.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol hefyd. Soniwyd am un enghraifft lle mae grŵp newydd sy’n darparu cyfleoedd chwarae i fabanod a rhieni drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chwmni gofalu plant cydnabyddedig lleol. Mae’r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiannus oherwydd ymddiriedaeth yn y cwmni lleol. Cynigiwyd bod y fath model yn un sydd angen ystyriaeth mewn ardaloedd eraill er mwyn normaleiddio’r Gymraeg a sicrhau nad yw’n cael ei weld fel rywbeth i bobl eraill.
Mae’n bwysig sicrhau siaradwyr newydd ac mae gwneud y Gymraeg yn haws i ddysgu yn rhan o hynny. Mae angen cynyddu’r cyfleoedd i fynychu pethau megis y theatr ac i fudiadau diwylliannol/celfyddydol i croesawu dysgwyr mewn i lefydd newydd.
Yn y 70au nodwyd fod anfon dysgwyr i addysg Gymraeg yn helpu symudedd gymdeithasol allan o’r Cymoedd. Roedd cynnydd iaith mewn safleoedd o awdurdod. Yn nawr, mae angen ffindio symbyliad o bwysigrwydd cyfoes i’r Gymraeg ac beth mae’n olygu.
Trafodwyd sut i normaleiddio Cymraeg amherffaith, a’r dyletswydd sydd arnom ni i gyd i’w wneud ac i cymryd balchder mewn hwn. “Mae’r iaith yn haeddu lot fwy o gefnogaeth”. Soniwyd Mudiad Meithrin ynglŷn a sesiynau “ti a fi” fel model llwyddiannus o normaleiddio’r Gymraeg. Nodwyd pwysigrwydd gwneud defnyddio Cymraeg yn haws, yn enwedig mewn ardaloedd diwylliant (theatr a.y.y.b) ac iddynt wneud mwy i croesawu dysgwyr.
“Wenglish yw iaith y cymoedd”.